Cynllunio Eich Llwybr

 Ben Nevis |  Scafell Pike |  Yr Wyddfa

Mae cynllunio’r llwybr fyddwch chi’n ei ddilyn yn holl bwysig i sicrhau Her lwyddiannus, ac nid yw mor syml ac y byddech chi’n ei ddychmygu efallai!

  • Pa lwybr i’w ddewis ar gyfer pob mynydd unigol
  • Pa fapiau fyddwch chi eu hangen
  • Pethau hynod o ddefnyddiol i’w lawr lwytho

Llwybrau Ben Nevis

  • Map Llwybr Ffordd AO | Map Mwy | I Gael Cyfarwyddiadau | Trwy Lygad Aderyn

    Cliciwch ar y tab Map Llwybr AO uchod i weld manylion y trac.

  • Y Trac Mynydd yw’r llwybr fyddwch chi’n ei ddefnyddio i fynd i fyny ac i lawr y mynydd mor ddiogel â phosibl. Bydd angen i chi gadw at y llwybr bob amser oherwydd bydd gadael y llwybr ar unrhyw adeg yn eich rhoi mewn perygl o ddifri o gael anaf. Gall y mynydd fod yn beryglus ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, felly byddwch yn barod am waith caled, a gwnewch yn siŵr bod gennych yr offer cywir.

    Os gwelwch yn dda a wnewch ystyried beth yw lefel eich ffitrwydd (mae hyn yn tueddu i fod yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl ei fod yn well nac ydyw) ac ystyriwch beth yw cyflwr cyffredinol eich iechyd cyn ymgymryd â thasg o’r fath. Mae llawer o’r damweiniau ar Ben Nevis yn digwydd ar y disgyniad (neu’r ffordd i lawr) am ei fod yr un mor llafurus â mynd i fyny, ond ar goesau blinedig a chithau eich hun wedi blino, diffyg canolbwyntio am eiliad yw’r cyfan mae’n ei gymryd i anaf ddigwydd. Cofiwch gynllunio i adael digon o amser ar gyfer eich taith, mae Ben Nevis fel arfer yn cymryd rhwng 6 i 8 awr gyda’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau’r tri chopa yn anelu at 5 awr fel eu bod hefyd yn gallu cynnwys eu hamser teithio yn y 24 awr (gan gadw at yr holl derfynau cyflymder wrth gwrs).

    Mae’r rhan fwyaf o grwpiau Her y Tri Chopa yn defnyddio’r prif lwybr mynydd sy’n dechrau o’r ganolfan ymwelwyr.

    Y mapiau y dylech chi eu defnyddio yw un ai:

    • Ein map Harveys mewnol unigryw
    • Map Harveys Super Walker XT25
    • Y map AO / OS 41, neu…
    • Map AO / OS 392
    • Canllaw Her y Tri Chopa A – Z (the A-Z Three Peaks Challenge Guide)

    Mapiau ar lein defnyddiol:

    Taflen Wybodaeth Diogelwch Cerdded ar Ben Nevis (Ben Nevis Walking Information Safety Leaflet) (PDF)


Yn ôl i’r brig


Llwybrau Scafell Pike

  • Map Llwybr Ffordd AO | Map Mwy | I Gael Cyfarwyddiadau | Trwy Lygad Aderyn

    Cliciwch ar y tab Map Llwybr AO uchod i weld manylion y trac.

  • Y ffordd fyrraf a’r un mwyaf uniongyrchol i fyny Scafell Pike yw cychwyn o faes parcio Lakehead yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wasdale (NY 182 075.) Yna defnyddiwch y llwybr Brown Tongue / Hollowstones i esgyn a disgyn. Fe allwch ddefnyddio Mickledore fel dewis arall, ond os gwelwch yn dda byddwch yn ymwybodol bod rhannau o’r llwybr hwn yn serth ac ansefydlog felly ni argymhellir ei ddefnyddio yn ystod y nos.

    O Borrowdale, parciwch yn Seathwaite (NY 236 123) a dilynwch y llwybr at bont Stockley ac yna i fyny at y tarn yn Sty Head. Yna, gallwch ymuno â llwybr y Coridor ar gyfer y ddringfa derfynol hyd at y copa. Mae’r llwybr hwn yn hirach na chychwyn o Wasdale a gall fod yn eithaf anodd ei lywio.

    lawr lwythwch y cardiau llwybrau os gwelwch yn dda, oherwydd maent yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i lywio’n ddiogel ar y mynydd, ynghyd â rhai awgrymiadau defnyddiol a fydd yn osgoi i bethau fynd o chwith i chi.

    • Y map Arolwg Ordnans fydd ei angen arnoch chi ar gyfer Scafell Pike o Wasdale yw’r OL6 (Ardal de orllewinol y Llynnoedd yn Lloegr).
    • Ar gyfer esgyn o Borrowdale fe fyddwch angen y OL6 a OL4 ill dau (ardal gogledd orllewinol Llynnoedd Lloegr).
    • Bydd yr A-Z Arweiniad Her y Tri Chopa (A-Z Three Peaks Challenge Guide) hefyd yn ddefnyddiol i chi.

    Mapiau ar lein defnyddiol:

    Isod gallwch lawrlwytho trosolwg o’r prif lwybrau i fyny Scafell Pike. Cofiwch mai’r bwriad gyda’r deunydd hwn a ellir ei lawr lwytho yw eu bod yn ganllaw bras yn unig. Dylech ddefnyddio’r map Arolwg Ordnans Explorer OL6 (ynghyd ag OL4 os ydych chi’n cychwyn o Borrowdale) a hynny ar y cyd â chwmpawd, wrth gerdded y daith.

    Scafell – Taflen llwybr Hollowstones (PDF)
    Scafell – Taflen llwybr Mickledore (PDF)
    Scafell – Taflen llwybr Corridor (PDF)


Yn ôl i’r brig


Llwybrau Yr Wyddfa

  • Map Llwybr Ffordd AO | Map Mwy | I Gael Cyfarwyddiadau | Trwy Lygad Aderyn

    Cliciwch ar y tab Map Llwybr AO uchod i weld manylion y trac.

  • Y mae’r rhan fwyaf o grwpiau Her y Tri Chopa naill ai’n defnyddio Llwybr Llanberis o Lanberis neu lwybrau’r PyG / Mwynwyr o Ben y Pass.

    Cliciwch ar y tab lawr lwytho uchod i gael gwybodaeth fanwl am y llwybrau hyn.

    Mae Llwybr Llanberis a Llwybr PyG / Mwynwyr yn llwybrau mynydd heriol a bydd angen map a chwmpawd i lywio – mae rhagor o wybodaeth ar y tab Mapiau uchod.

    Y map Arolwg Ordnans a fydd ei angen arnoch chi ar gyfer yr Wyddfa yw’r OL17. Byddwch hefyd yn canfod bod y mapiau a’r canllawiau a ganlyn yn ddefnyddiol iawn:

    Mapiau ar lein defnyddiol:

Yn ôl i’r brig