Ar y dudalen hon fe welwch yr holl wybodaeth a’r cysylltiadau fydd eu hangen arnoch chi i baratoi / cynllunio ar gyfer cyflawni Her y Tri Chopa yn llwyddiannus, ac rydym wedi ei osod allan cam wrth gam mewn ffordd ddefnyddiol.

Cynllunio eich her

  • Penderfynwch ar ddyddiad. Mae’n well osgoi gwyliau ysgol a gwyliau banc. Mae parcio a’r cyfleusterau lleol o dan bwysau sylweddol yn ystod y cyfnodau prysur hyn. Misoedd yr haf yw’r rhai gorau i gyflawni’r her, oherwydd fe gewch olau dydd am gyfnod hirach. Cofiwch mai’r penwythnosau fydd y cyfnodau prysuraf. Gallwch ddod o hyd i gyngor manwl ar barcio a phethau ymarferol eraill ar dudalennau cyngor lleol ar gyfer pob mynydd: Ben Nevis | Scafell Pike | Yr Wyddfa
  • Ystyriwch ymgymryd â’r her dros gyfnod o dri diwrnod o ddifrif. Mae hyn yr un mor heriol yn gorfforol, ond byddwch hefyd yn cael y cyfle i fwynhau a gwerthfawrogi tirweddau trawiadol yn ystod eich ymweliad, ac fe fyddwch yn lleihau eich effaith ar yr ardaloedd bregus hyn yn sylweddol. Dysgwch ragor am sut i leihau eich effaith yn y fan hon.
  • Cynlluniwch eich taith. Mae ceidwaid a wardeiniaid lleol wedi rhoi gwybodaeth fanwl at ei gilydd ar gyfer pob mynydd mewn canllawiau y gellir eu lawr lwytho yn hawdd. Dechreuwch gynllunio pa lwybr fyddwch chi’n ei gymryd yn awr.
  • Cofrestrwch eich her. Os yw eich grŵp yn cynnwys mwy na 10 o bobl, bydd angen i chi gofrestru eich her. Cofrestrwch Nawr.
  • Cynlluniwch eich cyfarpar. Byddwch angen cryn dipyn yn fwy na dim ond y cyfarpar / offer cerdded mynydd arferol. Cymerwch olwg ar y rhestr gyfarpar yr ydym ni’n eu hargymell.
  • Cadwch yn ddiogel. Mae’n gwneud perffaith synnwyr eich bod chi a gweddill y grŵp yn osgoi unrhyw drafferthion. Darllenwch am y pethau sylfaenol yn y fan hon.
  • Canfyddwch sut mae’r arbenigwyr yn mynd o’i chwmpas hi. Mae llawer o bobl yn dewis defnyddio cwmni tywys ar gyfer Her y Tri Chopa. Fe ofynnom ni i gwmni tywys lleol i ddweud wrthym sut y maent yn mynd ati i gynllunio ar gyfer digwyddiad Her y Tri Chopa fel taith dywys. Darllenwch am hyn yn y fan hon.

Ar ôl Eich Her…

Erbyn hyn rydych yn teimlo eich bod wedi cael eich ysbrydoli gan y tirweddau godidog y gwnaethoch chi ymweld â nhw. Mae Partneriaeth y Tri Chopa yn helpu i ofalu am y lleoedd hardd ond bregus hyn. Mae hyn yn golygu llawer o waith ac ni allwn wneud hynny ar ein pennau ein hunain. Darganfyddwch sut y gallwch chi helpu yn y fan hon.

Yn ôl i’r brig


Parchwch yr amgylchedd

  • Byddwch yn ystyriol. Dros nos, cadwch eich sŵn i’r lleiafswm posibl, diffoddwch unrhyw injan, peiriannau a goleuadau. Mae parcio yn Scafell Pike yn golygu eich bod yn union y drws nesaf i feysydd gwersylla a thrigolion lleol, sy’n clywed sŵn ac aflonyddwch bob nos Sadwrn o fis Ebrill-Hydref. Parchwch y gymuned leol os gwelwch yn dda.
  • Ewch â’ch sbwriel ac unrhyw sbarion bwyd adref. Yn ein cymunedau bach, gwledig cyfyngedig iawn yw’r casgliadau gwastraff a’r cyfleusterau ailgylchu. Yn yr un modd, peidiwch ag adeiladu na gadael unrhyw garneddau, nac unrhyw wrthrychau neu gofebion artiffisial ar y mynyddoedd.
  • Parchwch y toiledau! Os gwelwch yn dda a fyddwch gystal â’u gadael mewn cyflwr da, a mynd ag unrhyw sbwriel a dillad gyda chi. Peidiwch â defnyddio’r mynyddoedd fel toiled awyr agored, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar gyflenwadau dŵr lleol ac ar yr ecoleg, ac mae’n beth amhleserus i ymwelwyr eraill. Lle y bo modd, ewch i’r toiled cyn i chi gyrraedd. Os oes angen i chi basio dŵr, yna gwnewch hynny o leiaf 30m oddi wrth nentydd ac afonydd. Os oes ydych angen ymgarthu, gwnewch hynny mor bell i ffwrdd ag y bo modd oddi wrth unrhyw adeiladau, nentydd ac anifeiliaid fferm. Claddwch yr ysgarthion mewn twll bas a rhoi’r tyweirch yn eu hôl.
  • Cadwch at y llwybrau, peidiwch â throedio ar ymylon y glaswellt a chofiwch osgoi torri ar draws er mwyn byrhau eich llwybr / taith.
  • Dilynwch Ganllawiau Cenedlaethol y Tri Chopa ar y safle hwn, ac mae hwn ar gael i’w lawr lwytho yn y fan hon.

Yn ôl i’r brig


Byddwch Yn Ddiogel

  • Byddwch yn barod! Gwnewch yn siŵr bod gennych y cyfarpar / cit cywir a bod lefel eich ffitrwydd yn dda. Edrychwch ar ein rhestr cyfarpar am awgrymiadau ynghylch yr hyn y bydd angen i chi ddod gyda chi.
  • Cadwch olwg ar ac edrych beth fydd y tywydd! Gall tywydd ar y mynydd newid yn gyflym ac fe all newid profiad gwych i fod yn brofiad gwael iawn. Edrychwch ar wybodaeth y Swyddfa Dywydd ac ar ragolygon MWIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Tywydd Mynydd) y noson cyn mentro ar eich her i chi gael gwybod y wybodaeth fwyaf manwl gywir.
  • Os cyfyd argyfwng. Fe all mynyddoedd Prydain fod yn lleoedd heriol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r timau Achub Mynydd lleol i gyd yn wirfoddolwyr ac ni ddylid eu galw oni bai eich bod mewn argyfwng. Ewch i weld mountain.rescue.org.uk am ragor o wybodaeth.

Yn ôl i’r brig


Eisiau helpu?

Mae Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa yn amgylcheddau bregus iawn ac maent o dan bwysau o ganlyniad i’r cannoedd o filoedd o ymwelwyr sy’n dod i fwynhau’r lleoedd arbennig hyn bob blwyddyn. Mae digwyddiad Her y Tri Chopa yn cael effaith sylweddol ar y mynyddoedd hyn ac mae’n arwain at gostau ychwanegol ar gyfer yr elusennau a’r tirfeddianwyr eraill sy’n eu rheoli.

Fe allwch chi ein helpu ni i ofalu am y lleoedd arbennig hyn drwy ddilyn canllawiau Partneriaeth y Tri Chopa.

  • Os gwelwch yn dda ystyriwch o ddifrif wneud cyfraniad, bydd hyn yn ein helpu ni i warchod y mynyddoedd hyn a chadw’r lleoedd gwyllt hyn yn arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Hefyd fe allwch helpu drwy wirfoddoli un ai eich amser chi neu amser eich grŵp.

Yn ôl i’r brig