Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnir i ni amlaf ynghylch Her y Tri Chopa. Fe hoffem ni ychwanegu at y wybodaeth hon, felly os na allwch weld yr ateb isod, cysylltwch â ni.
- Yr adeg gorau i ymgymryd â’r her yw yn ystod y gwanwyn / haf gan fod y dyddiau yn hirach a’r tywydd yn well gobeithio. Fodd bynnag a fyddech gystal os gwelwch yn dda ag osgoi gwyliau ysgol a gwyliau’r banc oherwydd mae’r adnoddau parcio a’r amwynderau lleol dan bwysau sylweddol yn ystod y cyfnodau prysur hyn.
- Dim o gwbl! Er bod llawer o grwpiau yn ceisio cwblhau’r Her mewn 24 awr, mae hyn yn prysur ddod yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Mae mwy a mwy o grwpiau yn awr yn ceisio cyflawni’r Her dros Dri diwrnod. Mae hyn yr un mor heriol yn gorfforol, ond hefyd mae hyn yn golygu eich bod yn cael y cyfle i fwynhau’r tri rhanbarth mynyddig trawiadol hyn yn ystod eich ymweliad.
- Cyfnewidiol! Gall tywydd ar y mynydd fod yn eithafol ac nid yw’n anghyffredin i eira i fod yn gorwedd ar y copaon yn ystod yr haf, yn enwedig ar Ben Nevis. Mae’r tymheredd yn gostwng yn fras 1 radd Selsiws am bob 100m o ddringo, ac mae hyn, ynghyd â gwynt oer, yn golygu y bydd yn llawer oerach ar y copaon. Cofiwch baratoi, dewch â digon o ddillad sbâr, cynnes, hyd yn oed os ydych yn boeth yn y maes parcio. Os aiff y tywydd yn rhy ddrwg, peidiwch â bod ofn rhoi’r gorau i’ch her; bydd y mynyddoedd yn dal i fod yno i’w dringo ar ddiwrnod arall. Ewch i weld gwefan MWIS neu’r Swyddfa Dywydd am ragolygon manwl cyn i chi gyrraedd.
- Bydd. Mae’n hanfodol bod gennych y map Arolwg Ordnans (AO) priodol ar gyfer pob ardal, ynghyd â chwmpawd a’r gallu i’w ddefnyddio. Hefyd, os ydych chi’n rhan o grŵp mwy, gwnewch yn siŵr bod gan fwy nag un aelod o’ch grŵp fap a chwmpawd ac nad oes unrhyw un yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy’n llywio eich ffordd. Peidiwch da chi a dibynnu ar ffonau symudol nac ar unedau GPS, bydd y batris yn mynd yn fflat ar yr adegau mwyaf anghyfleus! Gallech bob amser ystyried llogi person cymwys i’ch tywys er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel.
- Mae’n bosibl cyflawni Her Genedlaethol y Tri Chopa mewn 24 awr gan ddibynnu ar lefel eich ffitrwydd. Fodd bynnag, byddai Partneriaeth y Tri Chopa yn eich annog yn gryf i gymryd eich amser a’i wneud dros gyfnod o dridiau. Bydd hyn yn eich galluogi i werthfawrogi yn llawn y mynyddoedd arbennig hyn, yn ogystal â lleihau rhai o effeithiau gwaethaf yr her, sef achosi aflonyddwch dros nos, sbwriel a galw’r tîm achub mynydd allan. Helpwch ni i warchod y mynyddoedd hyn, a diolch i chi am gadw at y llwybrau ac osgoi torri ar draws llwybrau er mwyn byrhau eich taith.
- Bydd angen i chi gael lefel resymol o ffitrwydd ynghyd â meddu ar agwedd benderfynol. Mae cerdded i fyny mynyddoedd yn llawer mwy egnïol nac yw cerdded ar leoedd gwastad ac rydych wedi dewis mynd i’r afael â’r tri chopa uchaf yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Felly, bydd angen i chi ymarfer a chryfhau eich nerth ymlaen llaw drwy wneud rhywfaint o gerdded mynyddoedd yn rheolaidd (bydd hyn yn gyfle da i chi ymarfer eich sgiliau llywio) a byddwch angen cael ymarfer corff cardiofasgwlaidd o fathau eraill. Ystyriwch wneud yr her dros dri diwrnod; bydd hyn yn caniatáu i chi fynd ar gyflymder synhwyrol, mwynhau’r hyn sydd o’ch amgylch a lleihau’r siawns o gael damwain / anaf.
Methu dod o hyd i’r ateb yr oeddech chi’n chwilio amdano? Cysylltwch gyda ni trwy gyfrwng ein tudalen cysylltu.