Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnir i ni amlaf ynghylch Her y Tri Chopa. Fe hoffem ni ychwanegu at y wybodaeth hon, felly os na allwch weld yr ateb isod, cysylltwch â ni.
Pryd yw’r adeg gorau o’r flwyddyn i wneud Her y Tri Chopa?
Yr adeg gorau i ymgymryd â’r her yw yn ystod y gwanwyn / haf gan fod y dyddiau yn hirach a’r tywydd yn well gobeithio. Fodd bynnag a fyddech gystal os gwelwch yn dda ag osgoi gwyliau ysgol a gwyliau’r banc oherwydd mae’r adnoddau parcio a’r amwynderau lleol dan bwysau sylweddol yn ystod y cyfnodau prysur hyn.
A oes rhaid i mi gwblhau’r Her mewn 24 awr?
Dim o gwbl! Er bod llawer o grwpiau yn ceisio cwblhau’r Her mewn 24 awr, mae hyn yn prysur ddod yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Mae mwy a mwy o grwpiau yn awr yn ceisio cyflawni’r Her dros Dri diwrnod. Mae hyn yr un mor heriol yn gorfforol, ond hefyd mae hyn yn golygu eich bod yn cael y cyfle i fwynhau’r tri rhanbarth mynyddig trawiadol hyn yn ystod eich ymweliad.
Sut fydd y tywydd?
Cyfnewidiol! Gall tywydd ar y mynydd fod yn eithafol ac nid yw’n anghyffredin i eira i fod yn gorwedd ar y copaon yn ystod yr haf, yn enwedig ar Ben Nevis. Mae’r tymheredd yn gostwng yn fras 1 radd Selsiws am bob 100m o ddringo, ac mae hyn, ynghyd â gwynt oer, yn golygu y bydd yn llawer oerach ar y copaon. Cofiwch baratoi, dewch â digon o ddillad sbâr, cynnes, hyd yn oed os ydych yn boeth yn y maes parcio. Os aiff y tywydd yn rhy ddrwg, peidiwch â bod ofn rhoi’r gorau i’ch her; bydd y mynyddoedd yn dal i fod yno i’w dringo ar ddiwrnod arall. Ewch i weld gwefan MWIS neu’r Swyddfa Dywydd am ragolygon manwl cyn i chi gyrraedd.
A fydd angen i mi wybod sut i lywio?
Bydd. Mae’n hanfodol bod gennych y map Arolwg Ordnans (AO) priodol ar gyfer pob ardal, ynghyd â chwmpawd a’r gallu i’w ddefnyddio. Hefyd, os ydych chi’n rhan o grŵp mwy, gwnewch yn siŵr bod gan fwy nag un aelod o’ch grŵp fap a chwmpawd ac nad oes unrhyw un yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy’n llywio eich ffordd. Peidiwch da chi a dibynnu ar ffonau symudol nac ar unedau GPS, bydd y batris yn mynd yn fflat ar yr adegau mwyaf anghyfleus! Gallech bob amser ystyried llogi person cymwys i’ch tywys er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel.
Pa mor hir wnaiff ei gymryd?
Mae’n bosibl cyflawni Her Genedlaethol y Tri Chopa mewn 24 awr gan ddibynnu ar lefel eich ffitrwydd. Fodd bynnag, byddai Partneriaeth y Tri Chopa yn eich annog yn gryf i gymryd eich amser a’i wneud dros gyfnod o dridiau. Bydd hyn yn eich galluogi i werthfawrogi yn llawn y mynyddoedd arbennig hyn, yn ogystal â lleihau rhai o effeithiau gwaethaf yr her, sef achosi aflonyddwch dros nos, sbwriel a galw’r tîm achub mynydd allan. Helpwch ni i warchod y mynyddoedd hyn, a diolch i chi am gadw at y llwybrau ac osgoi torri ar draws llwybrau er mwyn byrhau eich taith.
Pa mor ffit y mae’n ofynnol i mi fod?
Bydd angen i chi gael lefel resymol o ffitrwydd ynghyd â meddu ar agwedd benderfynol. Mae cerdded i fyny mynyddoedd yn llawer mwy egnïol nac yw cerdded ar leoedd gwastad ac rydych wedi dewis mynd i’r afael â’r tri chopa uchaf yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Felly, bydd angen i chi ymarfer a chryfhau eich nerth ymlaen llaw drwy wneud rhywfaint o gerdded mynyddoedd yn rheolaidd (bydd hyn yn gyfle da i chi ymarfer eich sgiliau llywio) a byddwch angen cael ymarfer corff cardiofasgwlaidd o fathau eraill. Ystyriwch wneud yr her dros dri diwrnod; bydd hyn yn caniatáu i chi fynd ar gyflymder synhwyrol, mwynhau’r hyn sydd o’ch amgylch a lleihau’r siawns o gael damwain / anaf.
Methu dod o hyd i’r ateb yr oeddech chi’n chwilio amdano? Cysylltwch gyda ni trwy gyfrwng ein tudalen cysylltu.
