Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi hwn, ynghyd â’n Amodau a Thelerau Polisi Defnydd Cwcis yn nodi’r sail a ddefnyddir gennym i brosesu’r data personol a gasglwn gennych, neu’r data rydych yn ei ddarparu i ni.

Gwybodaeth efallai y byddwn yn ei chasglu gennych
Byddwn yn casglu a phrosesu gwybodaeth a ddarperir gennych drwy lenwi unrhyw un o’r ffurflenni casglu data ar ein safle: www.threepeakspartnership.co.uk (“ein safle”). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir ar adeg cofrestru ar gyfer her, deunydd postio neu drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt – os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.

Cyfeiriadau IP a chwcis
Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, fel eich cyfeiriad IP, system weithredu a’r math o borwr. Mae hyn yn ddata ystadegol am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn.
Trwy ddefnyddio ffeil cwcis sydd yn cael ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur (gweler ein polisi defnydd cwcis am wybodaeth bellach), byddwn yn ceisio olrhain manylion eich ymweliadau â’n safle, yr adnoddau yr ydych yn cael mynediad atynt, a gwybodaeth am eich defnydd o’r rhyngrwyd yn gyffredinol.

Lle rydym yn storio eich data personol
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn diogelu eich data personol drwy sicrhau fod eich manylion yn cael eu trosglwyddo dros gysylltiad diogel (SSL), ni allwn lwyr warantu diogelwch eich data; bydd unrhyw drosglwyddiad ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Defnydd a wneir o’r wybodaeth
Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gedwir amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:

  • Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â manylion yr her yr ydych wedi cofrestru gyda ni
  • Er mwyn sicrhau bod cynnwys ein safle yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac ar gyfer eich dyfais.
  • Er mwyn rhoi gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau yr ydych yn gofyn i ni amdanynt neu yr ydym yn teimlo efallai o ddiddordeb i chi, lle rydych wedi cytuno i ni gysylltu at ddibenion o’r fath.
  • Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan mewn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.
  • I roi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth.
  • Er mwyn rhoi gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau yr ydych yn gofyn i ni amdanynt neu yr ydym yn teimlo efallai o ddiddordeb i chi, lle rydych wedi cytuno i ni gysylltu at ddibenion o’r fath (h.y. dewis optio’i mewn i’n rhestr bostio)

Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti:

  • Os digwydd ein bod yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, os felly mae’n bosibl y byddwn yn datgelu eich data personol i’r darpar brynwr neu werthwr busnes neu asedau o’r fath.
  • Os yw ein busnes neu’n holl asedau yn cael eu caffael gan drydydd parti, yn yr achos hwnnw bydd data personol sy’n cael ei ddal ganddo am ei gwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.
  • Os ydym dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau ac amodau y cyflenwad a chytundebau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo, neu ddiogelwch ein busnes, ein cwsmeriaid, neu eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion amddiffyn twyll a lleihau risg credyd.
  • Petaem yn defnyddio technolegau trydydd parti i gynorthwyo gyda gweithrediad ein safle (h.y. darparwr gwasanaeth rhestr bostio)

Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Fel arfer byddwn yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data at ddibenion o’r fath, neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti at ddibenion o’r fath. Gallwch ymarfer eich hawl i atal prosesu o’r fath drwy ddad-dicio’r blwch tanysgrifio ar y ffurflen her rydym yn ei ddefnyddio i gasglu eich data. Gallwch hefyd arfer yr hawl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni.

O bryd i’w gilydd, gall ein safle gynnwys dolenni i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr ac chysylltiedigion. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, os gwelwch yn dda nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

Mynediad i wybodaeth
Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi’r hawl i gael mynediad at wybodaeth a gedwir amdanoch chi. Gall eich hawl mynediad gael ei arfer yn unol â’r Ddeddf hon. Gall unrhyw gais am fynediad fod yn destun ffi o £10 i gwrdd â’n costau wrth ddarparu manylion i chi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo’n briodol, eu hysbysu i chi drwy e-bost.

Cyswllt
Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn a dylid eu hanfon atom drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt.