Amdanom Ni

Mae Partneriaeth y Tri Chopa yn bodoli er mwyn gwarchod tirweddau trawiadol sydd yn gartref i’r tri mynydd uchaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban: Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis.

Dechreuwch gynllunio nawr! Fe’i sefydlwyd yn 2013 ac mae’n cynnwys y sefydliadau a’r elusennau sy’n gyfrifol am reoli’r mynyddoedd hyn, mae Partneriaeth y Tri Chopa yn anelu at ddarparu’r cymorth a’r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod pobl sy’n ymgymryd â Her y Tri Chopa, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n golygu bod y mynyddoedd eiconig hyn yn gallu cael eu mwynhau am ganrifoedd i ddod a thu hwnt i hynny. ‘Rydym hefyd yn gofyn i grwpiau sy’n cynnwys dros 10 o gyfranogwyr i gofrestru â ni.

Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Mynydda Prydain, Ymddiriedolaeth John Muir, Highlife a Phartneriaeth Tirlun Nevis.

Darganfyddwch sut y gallwch chi ein helpu ni i warchod y tirweddau trawiadol

Sut i gynllunio Her y Tri Chopa gyda’r effaith negyddol lleiaf posibl

scafell-1920x500m