Cyngor ar ddiogelwch

Ewch â’r offer cywir, gwiriwch y tywydd a sicrhewch fod gennych y sgiliau a’r wybodaeth gywir

Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Eryri fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel.

Dylech baratoi drwy gario’r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol ar gyfer eich taith.


Offer

Dylech gario’r offer cywir i sicrhau y gallwch wynebu unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu newid yn y tywydd.

  • Cariwch fap a chwmpawd gyda chi, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gyfarwydd â’r llwybr.
  • Gall y tymheredd fynd yn oerach ar gopaon mynyddoedd. Cariwch haenau ychwanegol gyda chi bob amser.
  • Gall y tywydd newid o fewn munudau. Peidiwch â chael eich dal allan gan y glaw.
  • Gall tir anwastad arwain at anaf. Gwisgwch esgidiau cerdded addas gyda gwadn trwchus ac ochrau uchel.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn cychwyn ar eich taith ac osgoi ei ddefnyddio oni bai ei fod yn argyfwng.
  • Cariwch fflachlamp a chwiban rhag ofn i chi gael eich dal ar gopa ar ôl iddi dywyllu.
  • Gall pecyn cymorth cyntaf fod yn ddefnyddiol i lanhau a gorchuddio unrhyw grafiadau neu glwyfau bach a helpu gyda phothelli.
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn cario digon o fwyd a diod, yn enwedig mewn tywydd cynhesach.

Tywydd ac amodau

Gall y tywydd mewn mannau ucheldirol o’r Parc Cenedlaethol newid o fewn oriau. Mae paratoi ar gyfer y newidiadau posib hyn yn hanfodol.

  • Yr adeg gorau i wirio’r rhagolygon ydi ychydig oriau cyn cychwyn eich taith. Bydd y rhagolygon yn fwy cywir ar yr adeg yma. Defnyddiwch wasanaeth y Met Office ar gyfer y rhagolygon diweddaraf.
  • Peidiwch a bod yn or-ddibynnol ar y rhagolygon. Cofiwch y gall y tywydd newid yn ddi-rybudd a bydd angen i chi gario’r offer ar gyfer pob math o amodau.
  • Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda’r amodau, ystyriwch newid eich cynlluniau neu droi’n ôl.

Sgiliau a gwybodaeth

Mae cael y sgiliau a’r wybodaeth perthnasol yn hanfodol i gadw’n ddiogel mewn rhai mannau yn Eryri.

  • Dylech sicrhau fod eich lefel ffitrwydd yn addas ar gyfer y daith o’ch blaen. Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel ffitrwydd, cwblhewch daith llai llafurus gyntaf.
  • Dylech ddod i adnabod y daith cyn i chi gychwyn a chynllunio ar gyfer unrhyw newid yn y tywydd.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych y sgiliau hanfodol ar gyfer y daith er enghraifft sgiliau darllen map a defnyddio cwmpawd.
  • Dylech gynllunio eich taith yn seiliedig ar eich gallu chi neu, os yn teithio mewn grŵp, ar allu’r unigolyn lleiaf medrus yn y grŵp.
  • Cofiwch ddweud wrth rhywun am eich cynlluniau cyn cychwyn ar y daith.

Beth i’w wneud mewn argyfwng

  • Mewndir: Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna’r tîm achub mynydd
  • Dŵr mewndirol: Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub
  • Môr ac arfordir: Galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad:

  • Eich lleoliad
  • Eich enw, rhyw ac oed
  • Natur eich argyfwng neu anafiadau
  • Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
  • Eich rhif ffôn symudol

Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Mentra’n Gall.

Gwefan Mentra’n Gall >