Telerau Defnyddio’r Wefan

Mae’r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol i’r defnydd o’r wefan hon. Drwy gyrchu’r wefan hon a/neu gofrestru eich her, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a’r amodau. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a’r amodau, efallai na chewch fynediad i’r wefan hon. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r telerau ac amodau, cysylltwch â ni. Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd yma.

Diffiniadau a ddefnyddir yn y T&A hyn
Mae ‘Amodau’ yn golygu unrhyw delerau ac amodau a restrir ar y wefan hon; ‘Chi’ yn golygu defnyddiwr y wefan hon; ‘Ni’ yn golygu Partneriaeth y Tri Chopa; ‘Defnyddwyr’ yn golygu defnyddwyr y wefan; ‘Her’ yn golygu’r her wedi’i chofrestru ar y wefan; ‘Gwybodaeth bersonol’ yn golygu y manylion a ddarperir gennych wrth gofrestru; ‘Gwefan’ yn golygu gwefan Partneriaeth y Tri Chopa, a leolir yn www.3ppdev.tfimonday.com; ‘Cwcis’ yn golygu ffeiliau testun a roddwn ar yriant caled eich cyfrifiadur i storio gwybodaeth am eich gweithgaredd ar-lein;

Cael mynediad i’r wefan
Rydych yn cael mynediad i’r wefan hon yn unol â’r amodau hyn, a rhaid i unrhyw archebion a wneir gennych chi gael eu rhoi yn gwbl unol â’r amodau hyn.

Cofrestru
Rydych yn cytuno bod yr holl wybodaeth bersonol a ddarparwch pan fyddwch yn cofrestru’r her yn wir ac yn gywir. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch gwybodaeth bersonol ar unwaith drwy gysylltu â ni.

Cynnwys trydydd parti / cysylltiadau allanol
Rydych yn cytuno nad ydym yn cymeradwyo ac nad ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys a gynhelir ar wefannau allanol sydd â dolenni iddynt o’n gwefan.

Eiddo deallusol
Rydych yn cytuno y bydd yr holl hawlfraint, nodau masnach a phob hawliau eiddo deallusol eraill yn yr holl cynnwys y wefan yn parhau i fod yn eiddo i ni, ac rydych yn cytuno i beidio ag atgynhyrchu nac ailadrodd y deunydd hwn heb ein caniatâd ni ymlaen llaw.

Cywirdeb
Nid ydym yn gwneud unrhyw warant ynghylch cywirdeb na dibynadwyedd y wefan. Byddwn yn cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau bod yr holl fanylion a ddangosir ar y wefan yn gywir pan gânt eu mewnbynnu.

Eich hawliau
Nid yw eich hawliau statudol yn cael eu heffeithio gan y telerau a’r amodau.

Ein hawliau
Rydym yn cadw’r hawl i addasu/tynnu’n ôl y wefan hon gyda/heb rybudd i chi. Rydych yn cytuno na allwn fod yn atebol am unrhyw addasiadau o’r addasu/tynnu’n ôl o’r wefan.

Am unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r Telerau ac Amodau, cysylltwch â ni.