Mae Partneriaeth y Tri Chopa yn bodoli er mwyn gwarchod tirweddau trawiadol sydd yn gartref i’r tri mynydd uchaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban: Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis.

Dechreuwch gynllunio nawr! Fe’i sefydlwyd yn 2013 ac mae’n cynnwys y sefydliadau a’r elusennau sy’n gyfrifol am reoli’r mynyddoedd hyn, mae Partneriaeth y Tri Chopa yn anelu at ddarparu’r cymorth a’r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod pobl sy’n ymgymryd â Her y Tri Chopa, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n golygu bod y mynyddoedd eiconig hyn yn gallu cael eu mwynhau am ganrifoedd i ddod a thu hwnt i hynny.

Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Mynydda Prydain, Ymddiriedolaeth John Muir, Highlife a Phartneriaeth Tirlun Nevis.

Scafell Pike

Uchder: 978m (3209 tr)

Mynydd uchaf Lloegr

Ardal y Llynnoedd

Ben Nevis

 Uchder: 1344 m (4409 tr)

Mynydd uchaf yr Alban

Mynyddoedd Grampian

Snowdon / Yr Wyddfa

Uchder: 1085 m (3560 tr)

Mynydd uchaf Cymru

Parc Cenedlaethol Eryri

Cael eich Ysbrydoli