Parchu’r Cod Cefn Gwlad
Wrth gwblhau Her y Tri Chopa ac archwilio’r Wyddfa a’r ardaloedd cyfagos, mae’n hanfodol dilyn y Cod Cefn Gwlad i helpu i ddiogelu’r amgylchedd a’r cymunedau gwledig. Mae llawer o’r llwybrau i’r copa yn mynd trwy dir fferm gweithredol, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o, a pharchu cefn gwlad a’r trigolion.
Ydych chi’n dod â’ch ci?
- Cadwch eich ci dan reolaeth bob amser: Sicrhewch fod eich ci yn aros ar y llwybr ac nad yw’n tarfu ar fywyd gwyllt na da byw.
- Cadw cŵn ar dennyn: Yn enwedig yng nghyffiniau da byw, bywyd gwyllt, ac yn ystod y tymor bridio adar. Ar dir mynediad agored (sy’n cynnwys yr Wyddfa gyfan), rhaid i gŵn fod ar dennyn rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf i amddiffyn adar sy’n nythu ar y ddaear.
- Parchwch arwyddion lleol: Gwiriwch am gyfyngiadau cŵn penodol i’r ardal rydych chi’n ymweld â hi.
- Glanhewch ar ôl eich ci: Rhaid i wastraff cŵn bob amser gael ei fagio a’i waredu mewn bin cyhoeddus neu dylech fynd ag o adref. Argymhellir bagiau bioddiraddadwy. Peidiwch â gadael bagiau gwastraff ar ôl o dan unrhyw amgylchiadau.
- Byddwch yn ofalus yng nghyffiniau da byw: Os ydych chi’n teimlo dan fygythiad gan anifeiliaid, gollyngwch eich ci oddi ar y tennyn i sicrhau eich diogelwch.
Gwersylla yn Eryri
Os ydych chi’n bwriadu aros dros nos ar ôl eich her, i gael y profiad gwersylla gorau yn y parc, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n:
- Aros mewn gwersyll swyddogol – mwy o wybodaeth yma.
- Archebwch eich lle ymhell ymlaen llaw
- Cynlluniwch eich taith i’r gwersyll, gan fod rhai ardaloedd yn gallu bod yn brysur iawn yn ystod y tymhorau brig
Gwaherddir gwersylla gwyllt yn llym ledled Eryri heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tirfeddiannwr neu’r ffermwr. Mae hyn yn cynnwys Yr Wyddfa. Ni chaniateir gwersylla mewn meysydd parcio, ar ymylon y ffordd, na chysgu dros nos mewn cerbydau ar unrhyw adeg.
Tanau agored
Gwaherddir tanau agored a thannau mewn basgedi ar y mynydd yn gyfan gwbl. Mae hyn er mwyn diogelu’r amgylchedd sensitif, atal tanau gwyllt, a sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr. Gall fflamau agored ledaenu’n gyflym mewn amodau sych, gan beri bygythiad difrifol i fywyd gwyllt, llystyfiant, a’r dirwedd – gan gynnwys adeilad y rheilffordd a’r caffi. Maent hefyd yn cyflwyno risgiau sylweddol i bobl yn yr ardal. Er mwyn i chi gael ymweliad diogel a phleserus, peidiwch â chynnau tân a pharchwch yr amgylchedd naturiol bob amser.
Llygredd sŵn a golau
I’r rhai sy’n ymgymryd â’r her o esgyn i fyny neu i lawr Yr Wyddfa yn ystod y nos, dylech gofio a bod yn ystyriol o’r trigolion lleol sy’n byw ger y llwybrau mynydd. I leihau aflonyddu arnynt, cofiwch fod yn ddistaw a defnyddio cyn lleied â phosib o oleuadau.
Mae’r Wyddfa yn gorwedd o fewn Gwarchodfa Awyr Dywyll ddynodedig, ardal a warchodir am ei gwelededd eithriadol yn yr awyr nos. Pan fyddwch chi’n defnyddio lampau / goleuadau pen neu oleuadau eraill, diffoddwch nhw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio – yn enwedig gerllaw cartrefi – i leihau llygredd golau. Bydd eich agwedd ystyriol yn helpu i warchod heddwch a harddwch naturiol yr ardal i bawb ei fwynhau.
Ysbwriel
Gan mai’r Wyddfa yn aml yw stop olaf yn Her y Tri Chopa, weithiau byddwn yn dod ar draws llawer iawn o sbwriel sydd wedi’i adael ar ôl cyn i bobl fynd adref. Helpwch ni i gadw’r mynydd yn lân trwy fynd â’ch holl sbwriel hefo chi – gan gynnwys gwastraff bwyd fel croen oren, creiddiau afalau, bagiau te, a chroen banana. Gwaredwch â rhain yn gyfrifol adref, yn eich biniau lleol a’ch cyfleusterau gwastraff.
Yn ogystal, mae gwaharddiad llym yn erbyn lansio balŵns neu lusernau er mwyn diogelu’r amgylchedd
.
Defnyddio dronau
Defnyddio dronau at ddibenion anfasnachol
Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil (a adwaenir yn gryno fel y CAA) wedi nodi cyfrifoldebau cyfreithiol y mae’n rhaid i bob defnyddiwr drôn eu dilyn. Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio dronau ar Yr Wyddfa, ewch i weld gwefan Parc Cenedlaethol Eryri yma.
Yr Wyddfa Ddi-blastig
Mae Parc Cenedlaethol Eryri a Phartneriaeth Yr Wyddfa yn gweithio tuag at wneud Yr Wyddfa y mynydd di-blastig cyntaf yn y byd. Meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi’n dod â chi gyda chi, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n mynd â’ch holl sbwriel adref.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ein helpu i gyflawni’r nod hwn, ewch i weld tudalen Yr Wyddfa Ddi-blastig ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri.