Cyrraedd yno a chyfleusterau

Pen y Pass 

Mae Pen y Pass yn fan cychwyn ar gyfer Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg, sy’n arwain at gopa’r Wyddfa. Wedi’i leoli ar yr A4086, mae’n eistedd tua 5 milltir i’r de o Lanberis a 3 milltir i’r gogledd o Nant Peris. O ystyried ei boblogrwydd, mae’n hanfodol cynllunio eich taith i Ben y Pass ymlaen llaw, yn enwedig yn ystod y tymhorau brig. 


Gollwng ym Mhen y Pass 

Caniateir gollwng ym Mhen y Pass, gan gynnig opsiwn cyfleus yn ystod adegau prysurach. Fodd bynnag, mae lle yn gyfyngedig iawn, yn enwedig yn ystod y dydd mewn ardaloedd lle mae angen i fysiau Sherpa, bysiau mawr, bysiau mini, a thacsis droi o gwmpas. Er mwyn helpu i atal tagfeydd, byddwch yn barod i adael y cerbyd yn brydlon ar ôl cyrraedd. Sicrhewch fod eich bagiau wedi’u pacio, gwisgwch eich esgidiau heicio a sicrhau bod y criau ar yr esgidiau yn barod i’w defnyddio, a byddwch yn gwbl barod i ddechrau eich taith gerdded cyn cyrraedd Pen y Pass. Sylwch y gall staff y Parc Cenedlaethol ofyn i’ch gyrrwr symud ymlaen os oes angen, er mwyn osgoi blocio’r ffordd a sicrhau bod y traffig yn parhau i lifo. 


Parcio ym Mhen y Pass 

Yn yr haf, mae Pen y Pass yn gweithredu fel maes parcio 24 awr wedi ei rag-archebu yn unig ac mae’n dychwelyd i faes parcio talu ac arddangos yn y gaeaf.  

I wirio statws y maes parcio ac i archebu eich lle ymlaen llaw (os ydych chi’n cynllunio eich her yn ystod misoedd yr haf), cliciwch yma. 

Cynhelir gwaharddiad llym ar barcio ar y ffordd sy’n arwain at Ben y Pass o’r ddau gyfeiriad a chaiff hyn ei fonitro’n weithredol gan yr heddlu. Mae ceir wedi cael eu towio o’r ardal hon yn y gorffennol am rwystro traffig a chreu perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, felly dylech osgoi parcio yn y fan hon. 

Sylwer: uchafswm hyd y cerbyd a ganiateir yw 5 metr. 


Maes parcio Nant Peris 

Mae maes parcio Nant Peris yn cynnig dewis amgen ardderchog, wedi’i leoli ychydig i lawr y dyffryn ar hyd yr A4086 tuag at Lanberis. Mae bysiau rheolaidd Sherpa’r Wyddfa yn rhedeg o’r fan hon i Ben y Pass, gan ddarparu mynediad hawdd i’r mynydd. Mae hefyd yn lle cyfleus i gerbydau Her y Tri Chopa i barcio dros nos neu yn gynnar yn y bore wrth aros i’r sawl sy’n cymryd rhan i ddychwelyd i Ben y Pass. 

Gwybodaeth am daliadau
Dim ond taliadau ‘sglodyn a phin’ neu daliadau digyswllt a dderbynnir; nid yw taliadau arian parod ar gael. 

Cyfradd ddyddiol (tan hanner nos): £5.00 


Gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa 

Mae’r llwybrau i gopa’r Wyddfa yn dechrau mewn pentrefi bach neu ardaloedd sydd â chynhwysedd parcio cyfyngedig iawn. Oherwydd poblogrwydd y mynydd, yn enwedig yn ystod tymhorau prysur y gwanwyn a’r haf, gall parcio a thraffig ddod yn broblem, gan effeithio ar gymunedau lleol. Er mwyn helpu i leddfu tagfeydd a lleihau heriau parcio, anogir pob ymwelydd yn gryf i ddefnyddio gwasanaeth parcio a theithio bws Sherpa’r Wyddfa yn ystod y dydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu mynediad cyfleus i ardal Yr Wyddfa – heb y drafferth o ddod o hyd i le i barcio. 

Logo Sherpa'r Wyddfa

Am ragor o fanylion ac i gynllunio eich taith, ewch draw i wefan Sherpa’r Wyddfa.

Sherpa’r Wyddfa >

Toiledau

Peidiwch â dibynnu ar Hafod Eryri (adeilad y copa) am gyfleusterau bwyd, dŵr neu doiledau. Mae’n agored yn ystod y dydd yn nhymor yr haf yn unig a dim ond pan fydd trenau’n rhedeg i’r copa. Dylech gofio y gall tywydd garw neu ddigwyddiadau annisgwyl eraill arwain at gau’r adeilad ar fyr-rybudd – hyd yn oed yn ystod yr haf. Mae toiledau ar gael ym meysydd parcio’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Nant Peris a Phen y Pass, ac maent ar agor 24 awr.