Ap Llwybrau’r Wyddfa

Canllaw poced i ddringo’r Wyddfa – Ap Llwybrau’r Wyddfa
Llywiwch eich taith gerdded yn hyderus gan ddefnyddio ap Llwybrau’r Wyddfa – canllaw sy’n galluogi GPS ar gyfer y chwe phrif lwybr i gopa’r Wyddfa. 

Dyluniwyd yr ap gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid gweithgar sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sydd â dyletswydd ymarferol o reoli’r mynydd ar lawr gwlad. Mae’r gwaith yn amrywio o reolaeth cadwraeth a llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd. Mae’r ap yn hawdd i’w ddefnyddio, yn gweithio gyda GPS ac yn cynnwys mapiau manwl sy’n dilyn eich taith wrth i chi gerdded ar unrhyw un o’r 6 prif lwybr i’r copa. Mae hyn yn gweithio all-lein, sy’n golygu nad oes angen cyflenwad i’r we neu signal ffôn tra’n ei ddefnyddio ar y mynydd. Mae pob map yn cynnwys cyfuchliniau fel y gallwch gadw golwg ar ddarnau anodd wrth i chi gerdded.

Fe fydd yr ap yn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw cyn eich ymweliad ac yn cynnwys cyngor pwysig fydd yn eich galluogi i’n cynorthwyo i barchu, gofalu, a gwarchod y mynydd, yr amgylchedd o’i amgylch, a’r cymunedau lleol.

Lawrlwythwch o’r ffynonellau hyn 

An image of the Llwybrau'r Wyddfa logo