Mae Ras Yr Wyddfa yn ddiwrnod mawr i bentref Llanberis a’r ardal bob blwyddyn gyda nifer yn heidio yno i weld y rhedwyr yn dechrau’r ras ac i weld y cyffro wrth iddynt ddod yn o li lawr. Mae nifer hefyd yn cerdded i fyny llwybr Llanberis tuag at gopa’r Wyddfa i weld y rhedwyr yn dygymod a elfenau anodd a heriol y ras ar y mynydd ei hyn.
Bu i ni fel Wardeiniaid a Wardeiniaid Gwirfoddol y Parc fod yn rhan o’r ras eleni gan osod stondin ar y cae oedd yn gyfle da i gyfarfod pobl lleol a ymwelwyr gan roi cyfle iddyn nhw holi ni am unrhywbeth oedd i ymwneud a’r Wyddfa.
Roedd y tywydd yn wlyb ac yn niwlog iawn erbyn y ras ond doedd hyn ddim i weld yn amharu llawer ar y rhedwyr ar y blaen wrth iddynt hedfan i fyny ac i lawr mewn ychydig dros awr! Roeddem yn helpu fel marsials i’r ras fawr yn y pnawn. Bu i ni rannu i grwpiau llai gan leoli ei’n hunain mewn sawl lleoliad ar hyd y llwybr gan helpu rhai o’r rhedwyr oedd yn cael damwain yn ogystal ac annog pawb yn ei blaen.
Mi oedd hi’n dda gallu helpu rhywfaint ar y ras eleni a braf oedd gweld nifer o bobl lleol yn gwirfoddoli a rhoi eu hamser i’r ras hefyd!

![FullSizeRender[1]](https://www.threepeakspartnership.co.uk/wp-content/uploads/2016/08/FullSizeRender1-1024x768.jpg)

![FullSizeRender[3]](https://www.threepeakspartnership.co.uk/wp-content/uploads/2016/08/FullSizeRender3-1024x768.jpg)