Da ni’n ffodus iawn yma ar Yr Wyddfa i gael Tim o Wardeiniaid Gwirfoddol ers dwy flynedd bellach a braf iawn oedd cael eu croesawu’n ol yn gynnar eleni ar gyfer y Pasg a’r tymor sydd i ddod.
Mae rol Warden Gwirfoddol yn un amrywiol iawn gyda pob diwrnod yn wahanol a heriol o bryd iw gilydd yn enwedig mewn tywydd eithafol! Mae’n cynnwys darparu gwybodaeth a chynghori’r cyhoedd ar y llwybrau yn ogystal a rhannu negeseuon pwysig ynglun a diogelwch ar y mynydd. Maent hefyd yn clirio sbwriel oddi ar y llwybrau prysuraf yn ogystal a gwneud gwaith cynnal a chadw.
Mae rhai wedi bod hefo ni ers eu sefydlu ond mae hi’n dda hefyd cael croesawu rhai newydd i’r tim!
Eleni mae yna ddeg o Wardeiniaid Gwirfoddol newydd wedi dechrau gyda ni felly cyn y Pasg cafwyd diwrnod i groesawu pawb gan rhoi rhywfaint o hyfforddiant iddynt tra’n mynd allan ar y mynydd.
Roedd hi’n wych gweld y Wardeiniaid Gwirfoddol sydd hefo ni ers y dechrau’n rhannu eu profiad a’r rhai newydd. Bu i ni gael sawl senario gwahanol allan mewn amryw o lefydd ar ein taith. Roedd hyn yn cynnwys y math o gyngor i roi i grwp o gerddwyr yn Bwlch y Moch oedd eisiau gwybod yr elfennau ar Grib Goch yn ogystal a cynghori beicwyr mynydd ger Llyn Llydaw o’r cytundeb gwirfoddol sydd ar lwybrau’r Wyddfa .
Da ni’n gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr yma ar Yr Wyddfa ac yn edrych ymlaen i weithio hefo nhw’n y tymor a gobeithio’r blynyddoedd sydd i ddod!


