{"id":2129,"date":"2025-08-29T09:13:07","date_gmt":"2025-08-29T08:13:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/?page_id=2129"},"modified":"2026-04-04T21:56:11","modified_gmt":"2026-04-04T20:56:11","slug":"cyngor-ar-ddiogelwch","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/cyngor-ar-ddiogelwch\/","title":{"rendered":"Cyngor ar ddiogelwch"},"content":{"rendered":"<h2>Ewch \u00e2&#8217;r offer cywir, gwiriwch y tywydd a sicrhewch fod gennych y sgiliau a&#8217;r wybodaeth gywir<\/h2>\n<p>Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Eryri fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel.<\/p>\n<p>Dylech baratoi drwy gario\u2019r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol ar gyfer eich taith.<\/p>\n<h2 class=\"header-4 section-title\">Offer<\/h2>\n<div class=\"section-content\">\n<p>Dylech gario\u2019r offer cywir i sicrhau y gallwch wynebu unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu newid yn y tywydd.<\/p>\n<ul>\n<li>Cariwch fap a chwmpawd gyda chi, hyd yn oed os ydych chi&#8217;n meddwl eich bod chi&#8217;n gyfarwydd \u00e2&#8217;r llwybr.<\/li>\n<li>Gall y tymheredd fynd yn oerach ar gopaon mynyddoedd. Cariwch haenau ychwanegol gyda chi bob amser.<\/li>\n<li class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<div class=\"item-content\">Gall y tywydd newid o fewn munudau. Peidiwch \u00e2 chael eich dal allan gan y glaw.<\/div>\n<\/div>\n<\/li>\n<li class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<div class=\"item-content\">Gall tir anwastad arwain at anaf. Gwisgwch esgidiau cerdded addas gyda gwadn trwchus ac ochrau uchel.<\/div>\n<\/div>\n<\/li>\n<li class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<div class=\"item-content\">Gwnewch yn si\u0175r bod eich ff\u00f4n wedi&#8217;i wefru&#8217;n llawn cyn cychwyn ar eich taith ac osgoi ei ddefnyddio oni bai ei fod yn argyfwng.<\/div>\n<\/div>\n<\/li>\n<li class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<div class=\"item-content\">Cariwch fflachlamp a chwiban rhag ofn i chi gael eich dal ar gopa ar \u00f4l iddi dywyllu.<\/div>\n<\/div>\n<\/li>\n<li class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<div class=\"item-content\">Gall pecyn cymorth cyntaf fod yn ddefnyddiol i lanhau a gorchuddio unrhyw grafiadau neu glwyfau bach a helpu gyda phothelli.<\/div>\n<div class=\"item-content\">Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cario digon o fwyd a diod, yn enwedig mewn tywydd cynhesach.<\/div>\n<\/div>\n<\/li>\n<\/ul>\n<div class=\"repeater-item\">\n<div class=\"item-content\"><\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<h2>Tywydd ac amodau<\/h2>\n<p>Gall y tywydd mewn mannau ucheldirol o\u2019r Parc Cenedlaethol newid o fewn oriau. Mae paratoi ar gyfer y newidiadau posib hyn yn hanfodol.<\/p>\n<div class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<ul>\n<li class=\"item-content\">Yr adeg gorau i wirio\u2019r rhagolygon ydi ychydig oriau cyn cychwyn eich taith. Bydd y rhagolygon yn fwy cywir ar yr adeg yma. Defnyddiwch wasanaeth y Met Office ar gyfer y rhagolygon diweddaraf.<\/li>\n<li class=\"item-content\">Peidiwch a bod yn or-ddibynnol ar y rhagolygon. Cofiwch y gall y tywydd newid yn ddi-rybudd a bydd angen i chi gario\u2019r offer ar gyfer pob math o amodau.<\/li>\n<li class=\"item-content\">Os nad ydych chi\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus gyda\u2019r amodau, ystyriwch newid eich cynlluniau neu droi\u2019n \u00f4l.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<h2>Sgiliau a gwybodaeth<\/h2>\n<p>Mae cael y sgiliau a\u2019r wybodaeth perthnasol yn hanfodol i gadw\u2019n ddiogel mewn rhai mannau yn Eryri.<\/p>\n<div class=\"flex-block general-icons-and-text\">\n<div class=\"container\">\n<div class=\"icons-and-text-wrap\">\n<div class=\"row\">\n<div class=\"col-12 col-lg-6 col-xxl-8\">\n<div class=\"row repeater-row\">\n<div class=\"col-12 col-xxl-6 repeater-col\">\n<div class=\"repeater-item\">\n<ul>\n<li class=\"item-content\">Dylech sicrhau fod eich lefel ffitrwydd yn addas ar gyfer y daith o\u2019ch blaen. Os ydych chi\u2019n ansicr o\u2019ch lefel ffitrwydd, cwblhewch daith llai llafurus gyntaf.<\/li>\n<li class=\"item-content\">Dylech ddod i adnabod y daith cyn i chi gychwyn a chynllunio ar gyfer unrhyw newid yn y tywydd.<\/li>\n<li class=\"item-content\">Gwnewch yn si\u0175r fod gennych y sgiliau hanfodol ar gyfer y daith er enghraifft sgiliau darllen map a defnyddio cwmpawd.<\/li>\n<li class=\"item-content\">Dylech gynllunio eich taith yn seiliedig ar eich gallu chi neu, os yn teithio mewn gr\u0175p, ar allu\u2019r unigolyn lleiaf medrus yn y gr\u0175p.<\/li>\n<li class=\"item-content\">Cofiwch ddweud wrth rhywun am eich cynlluniau cyn cychwyn ar y daith.<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"flex-block shared-divider d-block\">\n<div class=\"container\">\n<h2 class=\"p1\">Beth i\u2019w wneud mewn argyfwng<\/h2>\n<ul>\n<li>Mewndir: Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna\u2019r t\u00eem achub mynydd<\/li>\n<li>D\u0175r mewndirol: Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth T\u0203n ac Achub<\/li>\n<li>M\u00f4r ac arfordir: Galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad:<\/p>\n<ul>\n<li>Eich lleoliad<\/li>\n<li>Eich enw, rhyw ac oed<\/li>\n<li>Natur eich argyfwng neu anafiadau<\/li>\n<li>Nifer o bobl sydd yn eich gr\u0175p (os yn berthnasol)<\/li>\n<li>Eich rhif ff\u00f4n symudol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i\u2019r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair \u2018register\u2019 i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau.<\/p>\n<p>Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Mentra&#8217;n Gall.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.adventuresmart.uk\/cy\/home-cy\/\">Gwefan Mentra\u2019n Gall<\/a><\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ewch \u00e2&#8217;r offer cywir, gwiriwch y tywydd a sicrhewch fod gennych y sgiliau a&#8217;r wybodaeth gywir Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Eryri fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel. Dylech baratoi drwy gario\u2019r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2129","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2129","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2129"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2129\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2129"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}