{"id":1449,"date":"2015-02-18T16:37:30","date_gmt":"2015-02-18T16:37:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/?page_id=1449"},"modified":"2026-04-04T21:43:12","modified_gmt":"2026-04-04T20:43:12","slug":"cwestiynau-ofynnir-yn-aml","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/cwestiynau-ofynnir-yn-aml\/","title":{"rendered":"Cwestiynau a Ofynnir yn Aml"},"content":{"rendered":"\n<p>Dyma rai o&#8217;r cwestiynau a ofynnir i ni amlaf ynghylch Her y Tri Chopa. Fe hoffem ni ychwanegu at y wybodaeth hon, felly os na allwch weld yr ateb isod, cysylltwch \u00e2 ni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pryd yw&#8217;r adeg gorau o&#8217;r flwyddyn i wneud Her y Tri Chopa?<\/h2>\n\n\n\n<p>Yr adeg gorau i ymgymryd \u00e2&#8217;r her yw yn ystod y gwanwyn \/ haf gan fod y dyddiau yn hirach a&#8217;r tywydd yn well gobeithio. Fodd bynnag a fyddech gystal os gwelwch yn dda ag osgoi gwyliau ysgol a gwyliau&#8217;r banc oherwydd mae&#8217;r adnoddau parcio a&#8217;r amwynderau lleol dan bwysau sylweddol yn ystod y cyfnodau prysur hyn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">A oes rhaid i mi gwblhau&#8217;r Her mewn 24 awr?<\/h2>\n\n\n\n<p>Dim o gwbl! Er bod llawer o grwpiau yn ceisio cwblhau&#8217;r Her mewn 24 awr, mae hyn yn prysur ddod yn rhywbeth sy&#8217;n perthyn i&#8217;r gorffennol. Mae mwy a mwy o grwpiau yn awr yn ceisio cyflawni&#8217;r Her dros Dri diwrnod. Mae hyn yr un mor heriol yn gorfforol, ond hefyd mae hyn yn golygu eich bod yn cael y cyfle i fwynhau&#8217;r tri rhanbarth mynyddig trawiadol hyn yn ystod eich ymweliad.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut fydd y tywydd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Cyfnewidiol! Gall tywydd ar y mynydd fod yn eithafol ac nid yw&#8217;n anghyffredin i eira i fod yn gorwedd ar y copaon yn ystod yr haf, yn enwedig ar Ben Nevis. Mae&#8217;r tymheredd yn gostwng yn fras 1 radd Selsiws am bob 100m o ddringo, ac mae hyn, ynghyd \u00e2 gwynt oer, yn golygu y bydd yn llawer oerach ar y copaon. Cofiwch baratoi, dewch \u00e2 digon o ddillad sb\u00e2r, cynnes, hyd yn oed os ydych yn boeth yn y maes parcio. Os aiff y tywydd yn rhy ddrwg, peidiwch \u00e2 bod ofn rhoi&#8217;r gorau i&#8217;ch her; bydd y mynyddoedd yn dal i fod yno i&#8217;w dringo ar ddiwrnod arall. Ewch i weld gwefan MWIS neu&#8217;r Swyddfa Dywydd am ragolygon manwl cyn i chi gyrraedd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">A fydd angen i mi wybod sut i lywio?<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd. Mae&#8217;n hanfodol bod gennych y map Arolwg Ordnans (AO) priodol ar gyfer pob ardal, ynghyd \u00e2 chwmpawd a&#8217;r gallu i&#8217;w ddefnyddio. Hefyd, os ydych chi&#8217;n rhan o gr\u0175p mwy, gwnewch yn si\u0175r bod gan fwy nag un aelod o&#8217;ch gr\u0175p fap a chwmpawd ac nad oes unrhyw un yn cael eu gwahanu oddi wrth y rhai sy&#8217;n llywio eich ffordd. Peidiwch da chi a dibynnu ar ffonau symudol nac ar unedau GPS, bydd y batris yn mynd yn fflat ar yr adegau mwyaf anghyfleus! Gallech bob amser ystyried llogi person cymwys i&#8217;ch tywys er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pa mor hir wnaiff ei gymryd?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bosibl cyflawni Her Genedlaethol y Tri Chopa mewn 24 awr gan ddibynnu ar lefel eich ffitrwydd. Fodd bynnag, byddai Partneriaeth y Tri Chopa yn eich annog yn gryf i gymryd eich amser a&#8217;i wneud dros gyfnod o dridiau. Bydd hyn yn eich galluogi i werthfawrogi yn llawn y mynyddoedd arbennig hyn, yn ogystal \u00e2 lleihau rhai o effeithiau gwaethaf yr her, sef achosi aflonyddwch dros nos, sbwriel a galw&#8217;r t\u00eem achub mynydd allan. Helpwch ni i warchod y mynyddoedd hyn, a diolch i chi am gadw at y llwybrau ac osgoi torri ar draws llwybrau er mwyn byrhau eich taith.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pa mor ffit y mae\u2019n ofynnol i mi fod?<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd angen i chi gael lefel resymol o ffitrwydd ynghyd \u00e2 meddu ar agwedd benderfynol. Mae cerdded i fyny mynyddoedd yn llawer mwy egn\u00efol nac yw cerdded ar leoedd gwastad ac rydych wedi dewis mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r tri chopa uchaf yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Felly, bydd angen i chi ymarfer a chryfhau eich nerth ymlaen llaw drwy wneud rhywfaint o gerdded mynyddoedd yn rheolaidd (bydd hyn yn gyfle da i chi ymarfer eich sgiliau llywio) a byddwch angen cael ymarfer corff cardiofasgwlaidd o fathau eraill. Ystyriwch wneud yr her dros dri diwrnod; bydd hyn yn caniat\u00e1u i chi fynd ar gyflymder synhwyrol, mwynhau&#8217;r hyn sydd o&#8217;ch amgylch a lleihau&#8217;r siawns o gael damwain \/ anaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Methu dod o hyd i\u2019r ateb yr oeddech chi\u2019n chwilio amdano? Cysylltwch gyda ni trwy gyfrwng ein tudalen cysylltu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma rai o&#8217;r cwestiynau a ofynnir i ni amlaf ynghylch Her y Tri Chopa. Fe hoffem ni ychwanegu at y wybodaeth hon, felly os na allwch weld yr ateb isod, cysylltwch \u00e2 ni. Pryd yw&#8217;r adeg gorau o&#8217;r flwyddyn i wneud Her y Tri Chopa? Yr adeg gorau i ymgymryd \u00e2&#8217;r her yw yn ystod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1449","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1449","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1449"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1449\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.threepeakspartnership.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1449"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}