Ionawr 2016

Gaeaf Garw

Gan Rhys Wheldon-Roberts, Warden Ardal Gynorthwyol Yr Wyddfa, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Rhys Wheldon-Roberts from the Winter Conditions Reporting Team

Mae’r Hydref a’r Gaeaf yn dod ag ymdeimlad gwahanol iawn i’r Wyddfa. Erbyn Tachwedd mae nifer o’r elfennau sy’n cyfrannu tuag at brysurdeb yr Haf wedi mynd. Mae’r trên bach a Hafod Eryri wedi cau, mae’r rhan fwyaf o’r adar mynydd wedi gadael neu wedi distewi ac mae’r nifer o gerddwyr bellach yn llawer llai. Er hyn mae gwaith yn parhau ar Yr Wyddfa drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Hydref yn cynnig ffenestr o amser gwerthfawr i’r Wardeniaid a’r Gweithwyr Stâd fynd at i wneud gwaith cynnal a chadw pwysig ar y llwybrau.

Mae Tachwedd yn nodi dechrau ein Hadroddiadau Amodau Dan Draed sy’n adrodd ar sut amodau gaeafol sydd i’w cael ar Yr Wyddfa drwy’r gaeaf. Mae’r Wardeniaid yn anelu am y copa i asesu cyflwr unrhyw eira a rhew, gyda’r nod o gyflawni adroddiad syml, i’r cyhoedd, o sut amodau sydd i’w cael ar y mynydd. Yn ogystal bydd y Wardeniaid yn rhoi cyngor elfennol ar ba fath o gyfarpar sydd ei angen mewn amodau o’r fath. Mae’r adroddiadau yma yn cael eu cyflawni 3 i 4 gwaith yr wythnos ac maent yn cael eu cyflwyno i’r Met Office i’w harddangos ar eu Rhagolygon Ardaloedd Mynyddig.

The PyG track in winter conditions
The PyG track in winter conditions

Mae’r mynyddoedd yn amgylchedd gwbl wahanol yn y gaeaf. Mae amodau’r tywydd a’r diwrnodau byr yn golygu fod cerdded yn y mynyddoedd yr adeg yma yn dipyn mwy o her. Mae cymryd sylw o’r rhagolygon tywydd a gwisgo’r cyfarpar cywir yn hanfodol er mwyn cael mwynhau’r mynyddoedd.

Am fwy o wybodaeth ar y rhagolygon tywydd diweddaraf gwelwch: http://www.metoffice.gov.uk/public/weather/mountain-forecasts/snowdonia#?tab=mountainWeather

Neu dilynwch yr Adroddiadau Amodau Dan Draed ar Trydar: @snowdonweather, @MountainSafe

Am gyngor ynglŷn â cherdded mynydd yn y gaeaf gwelwch: <http://www.ukhillwalking.com/articles/page.php?id=4261>