Y Mynydd

Snowdon from Llynnau Mymbyr

Cyflwyniad

Yr Wyddfa ar 1085 metr yw’r mynydd uchaf yng Nghymru, ac mae ei harddwch yn teyrnasu dros y bryniau o amgylch. O’r copa, ar ddiwrnod clir, gallwch weld Ynys Môn, Sir Benfro a hyd yn oed Iwerddon.

Beth sydd mor arbennig am yr Wyddfa?

  • Tywydd eithafol: Y tymheredd yn amrywio ar y copa o -20°C i + 30°C, gall cyflymder gwynt gyrraedd hyrddiau o 150 milltir yr awr, ceir mwy na 5 metr o wlybaniaeth yn flynyddol ac yn aml mae eira ar y mynydd am chwe mis o’r flwyddyn!
  • Y mynydd mwyaf poblogaidd yn y DU: mae’r Wyddfa yn denu bron i 500,000 o gerddwyr bob blwyddyn; a Rheilffordd yr Wyddfa sy’n mynd yr holl ffordd i’r copa yn cario 110,000 o deithwyr ychwanegol yn flynyddol. Mae’r trên yn rhedeg o Ebrill-Hydref ond nid yw’n rhedeg mewn tywydd gwael.
  • Planhigion ac anifeiliaid prin: Mae llawer o’r Wyddfa yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Mae’r Lloydia Serontina neu Lili’r Wyddfa prin a bregus i’w chanfod ar y clogwyni serth sy’n wynebu’r gogledd/gogledd ddwyrain ar bridd gwael – ac Eryri yw’r unig le y mae i’w gweld yn y DU. Ymhlith planhigion a chreaduriaid arbennig eraill sy’n cael eu gwarchod mae Chwilen yr Wyddfa a’r Tormaen Glascoch.
  • Lluniaeth ar y copa: Bu adeiladau ar gopa’r Wyddfa ers yr 1820au, er bod y cytiau blêr yr adeg honno’n wahanol iawn i Hafod Eryri – yr adeilad sydd ar y copa – sydd wedi ei gynllunio i ymdoddi i’r dirwedd ac i wrthsefyll y tywydd eithafol. Mae Hafod Eryri yn cael ei redeg gan Reilffordd yr Wyddfa, felly os nad yw’r trên yn rhedeg oherwydd tywydd gwael, nid yw Hafod Eryri yn agored.
  • Llosgfynyddoedd a ffosilau: Mae’r Wyddfa yn sefyll ei ben ei hun yn Eryri – gellir ei weld o bell ac mae’n nodwedd ddramatig. Mae sawl math o greigiau i’w cael ar y copa – cerrig gwaddod a chreigiau folcanig/igneaidd. Mae rhai o’r creigiau ar hyd y copa hyd yn oed yn cynnwys ffosilau o greaduriaid y môr! Mae’r Wyddfa ei hun yn gopa pyramidaidd. Erydodd rhewlifoedd dair ochr gan ffurfio’r siâp nodweddiadol hwn, a gadael dwy grib – Crib Goch a Lliwedd uwchben cymoedd/ ffurfiannau peiran, gyda chrognentydd uwchben y prif rhewlifoedd yn y dyffryn islaw.
  • Twmpath claddu hynafol: Mae’r enw Cymraeg yr Wyddfa yn golygu man claddu, ac yn ôl y chwedl, mae Rhita Gawr wedi ei gladdu o dan y garnedd y copa.

Yn ôl i’r brig


Cyrraedd Yno

O’r A55 yn teithio tua’r gorllewin: Llwybr Llanberis (cychwyn o Lanberis)

  • Cymerwch Gyffordd 11 oddi ar yr A55.
  • Ar y gylchfan cymerwch yr allanfa gyntaf i Fethesda.
  • Ar y gylchfan nesaf cymerwch yr ail allanfa am yr A4244.
  • Ar y gylchfan nesaf cymerwch yr allanfa gyntaf.
  • Ar ôl tua milltir, byddwch yn mynd heibio garej betrol ar y chwith, nodwch mai hon yw’r garej olaf cyn cyrraedd Llanberis os ydych angen tanwydd.
  • Ar y gyffordd T trowch i’r chwith i Lanberis.
  • Parhewch nes welwch chi lyn ar y chwith.
  • Gweler isod am fwy o fanylion ynglŷn â pharcio yn Llanberis.

PyG/Miners (cychwyn o Pen y Pass)

  • Fel uchod ond daliwch i fynd pan fyddwch yn gweld y llyn ar y chwith. Byddwch yn dod at gylchfan fach, ewch yn syth dros hon a pharhau i ddilyn y ffordd drwy bentref o’r enw Nant Peris ac i fyny drwy’r cwm nes i chi gyrraedd y pen y pas (tua 6 milltir o Lanberis).
  • Mae maes parcio Pen y Pass ar ochr dde pen y pas.

Yn ôl i’r brig


Parcio

Llanberis
Nid oes mynediad i gerbydau oddi ar y gylchfan fach ar y brif ffordd i fyny’r lôn darmac gul i gychwyn llwybr Llanberis i fyny’r Wyddfa, felly bydd angen i chi barcio yn un o’r nifer o feysydd parcio yn Llanberis (£4-8).

Pen y Pass
Mae maes parcio Pen y Pass (£10) fel arfer yn llawn ar ôl 7.30am yn ystod misoedd yr haf, a gall hyd yn oed gollwng pobl i lawr o’r car yma yn ystod adegau prysur fod yn broblem. Mae parcio pellach ar gael naill ai i’r dwyrain, ym Mhen y Gwryd (£4), neu i’r gorllewin yn Nant Peris (£4). Mae’r gwasanaeth bws gwennol Sherpa yn rhedeg bob tua hanner awr yn ystod adegau prysur, rhwng y tri maes parcio ac mae’r tocyn bws yn £1- £1.50. Mae hefyd lwybr yn cysylltu Pen y Pass a Phen y Gwryd sy’n cymryd 20 munud ychwanegol i gerdded. Darllenwch ein cyngor cyffredinol ar barcio os gwelwch yn dda.

Yn ôl i’r brig


Amwynderau

Sbwriel

Os gwelwch yn dda ewch â’ch holl sbwriel i ffwrdd gyda chi, gan gynnwys croen ffrwythau a chalon afalau. Efallai mai dim ond llond bag bin sydd gennych ond gyda dros 30,000 o bobl yn cymryd rhan yn Her y Tri Chopa bob blwyddyn mae’n pentyrru’n gyflym, ac mae cael gwared arno’n hynod gostus i’r Parc Cenedlaethol a chymunedau lleol. Noder nad oes biniau o gwbl ym Mhen y Pass, felly bydd angen i chi fynd â’ch sbwriel i ffwrdd gyda chi..

Gwasanaeth Ffonau Symudol

Mae hwn yn gyfyngedig iawn ar y mynyddoedd ac nid oes signal ffôn ym Mhen y Pass. Mae ffôn talu yn yr adeilad ym Mhen y Pass.

Toiledau

Os gwelwch yn dda gadewch y toiledau fel y cawsoch chi nhw, ac ewch â’ch holl sbwriel a dillad adref gyda chi. Mae problem gynyddol gyda phobl yn defnyddio’r Wyddfa fel toiled cyhoeddus enfawr, felly gwnewch drefniadau i fynd i’r toiled cyn i chi fynd i fyny’r mynydd! Mae toiledau ar gael yn yr adeilad copa Hafod Eryri, ond mae’r adeilad ar gau yn ystod misoedd y gaeaf ac mewn tywydd gwael, felly ni ellir dibynnu ar hwn.

Gorsafoedd Petrol

Y gorsafoedd petrol agosaf at Lanberis yw:

  • Gorsaf Betrol Beran, Deiniolen, LL55 3NF.
  • Gorsaf Betrol London Garage, Cwm y Glo, LL55 4DE.

Bwyd a Diod

Sicrhewch eich bod yn dod â digon o gyflenwadau bwyd a dŵr. Nid yw’r cyflenwad dŵr o’r prif gyflenwad ym Mhen y Pass yn addas ar gyfer yfed. Gellir prynu dŵr potel a byrbrydau o’r lleoliadau canlynol ond cofiwch fod yr oriau agor yn amrywio:

  • Pen y Pass – Caffi’r Bwtri
  • Pen y Pass – YHA.
  • Llanberis – Mae amrywiaeth fawr o siopau, caffis a thafarnau rhagorol, mwy o wybodaeth yma
  • Yr Wyddfa – Caffi Halfway House, hanner ffordd i fyny llwybr Llanberis; caffi’r copa yn Hafod Eryri (cofiwch fod y caffis hyn ar gau yn ystod y gaeaf a phan mae tywydd gwael).

Llety

Bydd annog pawb sy’n cymryd rhan i aros yn lleol a phrynu nwyddau yn lleol yn sicrhau cynaliadwyedd digwyddiadau elusennol ar yr Wyddfa yn y dyfodol. Mae croeso i chi ddefnyddio un o’r nifer o dafarndai lleol / caffis gwych i ddathlu eich llwyddiant!

Pwyntiau Arian Parod

Mae nifer o bwyntiau arian parod yn Llanberis.

Tywyswyr Lleol

Gall archebu tywyswyr lleol dynnu llawer o straen allan o drefnu eich dringo a bydd ganddynt wybodaeth leol ardderchog am yr ardal. I gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau lleol cliciwch yma.

Yn ôl i’r brig


Tywydd

Gall y tywydd yn Eryri newid yn gyflym a throi o fod yn brofiad gwych i fod yn un gwael iawn. Edrychwch ar ragolygon tywydd mynydd y Swyddfa Dywydd ar gyfer Eryri – ar gyfer y rhagolwg mwyaf cywir, gwiriwch Rhagolwg y Swyddfa Dywydd y noson cynt.

Yn ôl i’r brig


Cadwraeth

Dal y Fantol: Mwynhad a Chadwraeth

Volunteering-footpath-work-Snowdon

Mae llwybrau troed da yn ffordd o warchod y tir ar y naill ochr i’r llwybr rhag erydiad a achosir gan y miloedd o draed sy’n cerdded i fyny’r llwybrau i’r copa bob blwyddyn. Mae hwn yn dir lle mae llawer o blanhigion prin yn tyfu ac mae angen gadael llonydd iddynt. Mae tîm wardeniaid llwybr troed yn ogystal â channoedd o wirfoddolwyr yn cynnal ac yn atgyweirio’r llwybrau ar yr Wyddfa i safon uchel, ond weithiau mae problemau’n codi.

Mae draeniau sy’n cario dŵr oddi ar y llwybrau weithiau’n cael eu llenwi gyda sbwriel neu gallant gael eu blocio gyda malurion. Pan fydd draeniau wedi’u blocio, gall llawer iawn o ddŵr lifo ar y llwybr a gwneud niwed enfawr i’r gwaith gofalus a wnaed gan y tîm llwybr troed.

Mae geifr gwyllt yn broblem mewn rhai ardaloedd. Oherwydd gaeafau mwyn, a’r ffaith fod yna fwy o laswellt (a llai o ddefaid, felly llai o gystadleuaeth) mae’r niferoedd wedi cynyddu’n ddramatig. Maent yn broblem gan eu bod yn bwyta popeth ac yn gallu dadwneud y gwaith y mae’r ffermwyr a chadwraethwyr yn ei wneud. Gallant ddringo coed i gyrraedd y dail. Maent yn cael eu cyfrif bob blwyddyn fel bod eu niferoedd a lleoliad yn hysbys.

Yn ôl i’r brig