Fe wnaethom ofyn i Kate Worthington o gwmni tywys lleol RAW Adventures i ddweud wrthym sut maen nhw’n rhedeg y digwyddiadau Her y Tri Chopa yn gynaliadwy:

Mae RAW Adventures yn ceisio annog pobl i fynd am yr her tri diwrnod – mae hyn yr un mor heriol yn gorfforol ond mae’r cyfranogwyr yn gallu mwynhau’r ardaloedd trawiadol maen nhw’n ymweld â nhw hefyd. Ond ar gyfer y rhai na ellir eu darbwyllo ac sy’n awyddus i wneud yr Her 24 awr, fe wnaiff RAW Adventures dorri’r oriau i gyfnodau o amser gyrru a cherdded:


Amser Gyrru – allocate an average 10 hours (6 hours between Ben Nevis and Scafell Pike and 4 hours between Scafell Pike and Snowdon)

Amser Cerdded Ben Nevis – 5 awr 30 mun

Amser Cerdded Scafell Pike – 4 awr 15 mun (o Wasdale Head

Amser Cerdded Yr Wyddfa – 4 awr 15 mun (o Ben y Pass)

Cyfanswm yr Amser Cerdded Mynydd = 14 awr

CYFANSWM amser y digwyddiad = 24 awr


Mae neilltuo amser gyrru o 10 x o oriau yn tynnu’r pwysau oddi ar y gyrru, ac felly ni fydd angen torri unrhyw reolau cyflymder, methu unrhyw amser i aros i fynd i’r toiled na phoeni os fyddwch chi’n cael eich dal mewn tagfeydd traffig yn rhywle. Yna mae’r cyfrifoldeb ar y tîm cerdded i gyflawni’r amser a glustnodwyd ar gyfer y ‘cerdded mynydd’……ac mae’r amseroedd hyn yn dal i fod yn rhai anodd eu curo!

Amserlen a ffefrir ac a argymhellir gan RAW Adventures yw:


Diwrnod 1

15:00 Cychwyn ar Ben Nevis

21:00 Bwyd poeth yn Fort William (mae opsiynau ar gael yn Fort William/Glen Nevis)

Gadael Fort William i yrru dros nos a chysgu

Diwrnod 2

05:00 Cychwyn ar Scafell Pike

09:30 Brecwast yn y Wasdale Head Inn

Gyrru at Yr Wyddfa

14:00 Cychwyn ar Yr Wyddfa

18:30 Gorffen Yr Wyddfa a chwblhau’r her

Aros dros nos yn Eryri am ginio ac i ddathlu

Diwrnod 3

Y daith am adref – wedi cael gorffwys a chysgu’n dda dros nos


Gofynnom i Kate siarad â ni am bob dim, hyd yn oed y manion bethau sydd yna i’w gwneud wrth gynllunio Her:

“Rydym yn defnyddio ein ddau ddigwyddiad diwethaf fel esiampl, ac yr oedd y rheiny yn cynnwys darparu gwasanaeth ar gyfer grŵp o 12 o ffrindiau a grŵp o godwyr arian corfforaethol. Dechreuwyd y broses drwy ofyn llawer o gwestiynau a darparu gwybodaeth, hyd yn oed cyn i amserlen ddelfrydol gael ei chytuno:

A Three Peaks Challenge group guided by RAW Adventures on Snowdon
  • Beth yw amcanion a phrofiad y tîm?
  • Cyngor ar yr adegau / dyddiau gorau o’r flwyddyn i gyflawni’r digwyddiad
  • Trafod gwahanol ffyrdd o amseru’r digwyddiad er mwyn llwyddo ac er budd diogelwch
  • Faint o ddyddiau sydd ganddynt i’w gwblhau? A yw’n gallu bod yn hirach?
  • Sut orau allwn ni eu helpu nhw i baratoi a deall yr her sydd dan sylw?
  • Sut allwn ni leihau ein heffaith yn lleol ac yn amgylcheddol?
  • Pa bethau cadarnhaol allwn ni eu gwneud ar gyfer busnesau a chyflenwyr lleol?
  • Sut allwn ni leihau’r risg i gyfranogwyr?
  • Sut fydda’ nhw’n teithio i / o’r pwynt cychwyn / gorffen?
  • Sut allwn ni eu helpu nhw i gael cyfarparu ac offer?
  • A fyddwn ni angen staff ychwanegol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw agweddau penodol

Yn anochel fe wnaeth natur y digwyddiad olygu ein bod yn mynd i ardaloedd poblogaidd. Fe wnaethom gadw at y llwybrau a beirianyddwyd ac roeddem yn weithredol yn eu hannog i beidio cael neb yn cerdded nesaf atynt (er mwyn osgoi lledaenu’r llwybr yn araf), gyda staff yn arwain trwy esiampl wrth gerdded. Fe wnaethom addysgu’r timau ynghylch sut mae mynyddoedd poblogaidd yn cael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw, a’u galluogi i fwynhau eu hamgylchedd, y golygfeydd yr hanes a mwy na hynny.

Peth arall sy’n peri un o’r prif bryderon a’r hyn yr ydym ni yn ei annog yw defnyddio cynhwysyddion dŵr a bwyd y gellir eu hail ddefnyddio ac ‘rydym yn mabwysiadu’r ymarferion ‘Peidio Gadael Unrhyw Olion’ yn gryf iawn ar y mynydd. Cafodd ein timau ni eu briffio ar effaith ysbwriel a bwyd yn pydru, effaith sŵn, gadael nodweddion naturiol fel ac y maent, peidio â blocio llwybrau, lle i fynd i’r toiled a beth i’w wneud gyda’r tusw ayyb. Yr oedd hyn yn cynnwys agweddau parcio a lletya mewn mannau priodol ar y naill ochr i amserlen yr her a’r llall. Er mwyn cynnal yr arferion gorau yn ein sefydliad ni a chyflawni Her y Tri Chopa, fe wnaethom sicrhau hefyd ein bod yn dilyn y set hon o egwyddorion – ac rydym yn gwneud hynny bob amser, waeth beth fo’ cyfanswm maint ein timau:

Grŵp Her y Tri Chopa yn cael eu harwain gan RAW Adventures ar Scafell Pike
  • Gwybodaeth glir cyn y digwyddiad clir fel bod pawb yn ymwybodol o be di be ac yn wybodus
  • Cyngor ar gyfarpar, offer, bwyd a maeth
  • Cymorth gyda theithiau cerdded dan hyfforddiant os gofynnir amdano
  • Cysylltu ag awdurdodau a thirfeddianwyr ar gyfer y gwahanol gopaon yn ôl yr angen
  • Archebu parcio a thalu ffioedd os bydd angen
  • Defnyddio gwasanaethau cludiant proffesiynol i sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd ar y ffordd
  • Defnyddio Arweinwyr Mynydd profiadol, cymwys, gwybodus a hyderus
  • Gweithio gyda grwpiau o 8-10 o gerddwyr, a rhannu grwpiau mwy yn unol â hynny
  • Cynnal arferiad o gyfathrebu da rhwng staff ar / ac oddi ar y mynydd gyda’r offer radio priodol
  • Rhoi sesiynau briffio digwyddiadau a diogelwch clir cyn cyrraedd pob mynydd, felly bod y disgwyliadau, cyflymder ac amseroedd yn cael eu rheoli’n dda
  • Defnyddio amseroedd torri i ffwrdd clir a theg ar fynyddoedd er mwyn lleihau blinder a diogelu amseriad y digwyddiad / amseroedd gyrwyr
  • Defnyddio cyflenwyr lleol ar gyfer bwyd, diod, llety, tanwydd, parcio, cyfarpar, cyflenwadau’r digwyddiad
  • Ailgylchu gwastraff a’i waredu’n briodol pan fo angen
  • Nid ydym yn hyrwyddo defnyddio ‘marshals’ ar gyfer digwyddiadau o faint mawr – mae Arweinydd ar gyfer pob un o’n timau ni
  • Rydym yn rhoddi £3 ar ran pob cyfranogwr a’i rannu rhwng y 3 elusen a ganlyn: Cymdeithas Eryri / Snowdonia Society, Fix the Fells a Phartneriaeth Ben Nevis
  • Rydym yn cydlynu ac yn hyrwyddo ymdrechion ‘Gwir Her y 3 Chopa’ ar Yr Wyddfa (digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Arweinwyr a Hyfforddwyr Mynydd sy’n gweithio yn y diwydiant er mwyn helpu i gadw’r mynyddoedd yn lân a chodi ymwybyddiaeth amgylcheddol)
  • Helpu i hyrwyddo gwybodaeth am arferiad gorau a chynnig cyngor i ddarparwyr eraill yn unol â hynny
A Three Peaks Challenge group guided by RAW Adventures on Ben Nevis

Mae Her y 3 Chopa yn bendant yn ddigwyddiad poblogaidd a chaled – ac nid yw bob amser yn beth deniadol! Mae’n denu nifer fawr o bobl o’r DG i’r mynyddoedd bob blwyddyn – ac fe all fod yn brofiad cyntaf i rai o gerdded yn ein mynyddoedd hardd. Y canlyniad gorau i unrhyw un sy’n meddwl am drefnu / ddarparu’r her yw sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni yn y ffordd orau bosib er mwyn cyflawni eu nodau, hyrwyddo arfer gorau, cadw’n ddiogel a rhoi’r profiad gorau posibl i bob un sy’n cymryd rhan …ac mae hyn yn cynnwys eu hannog i chwarae eu rhan yn yr awyr agored mewn ffordd gadarnhaol”.

Am unrhyw wybodaeth bellach neu gyngor, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda RAW Adventures trwy gyfrwng eu gwefan nhw: www.raw-adventures.co.uk.