compass

Ychydig o gyngor cyn i chi fynd…

  • Paciwch y pecyn a argymhellwyd. Fe fyddwch angen y cyfarpar / offer cywir gyda chi ar gyfer yr amgylchiadau gorau a’r amgylchiadau gwaethaf – gall y tywydd a’r tymheredd newid yn ddramatig rhwng troed y mynydd a’r copa – gweler ein rhestr cyfarpar a argymhellir isod neu lawr lwythwch y Rhestr Cyfarpar mewn PDF.
  • Gwiriwch beth yw’r rhagolygon diweddaraf ar gyfer y tywydd ar y mynydd. Gwiriwch y rhagolygon ar gyfer y tywydd ar y mynyddoedd ar gyfer Yr Wyddfa, Scafell a Ben Nevis naill ai drwy gyfrwng y Gwasanaeth Gwybodaeth Tywydd ar y Mynydd (MWIS) neu’r Swyddfa Dywydd cyn cychwyn a byddwch yn barod i droi yn ôl os bydd y tywydd yn gwaethygu. Sicrhewch fod gennych gynlluniau wrth gefn petai’r tywydd yn troi’n wael.
  • Cynlluniwch y llwybrau rydych chi’n eu dewis yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod yr her yn addas ar gyfer y grŵp cyfan. Gwnewch yn siwr bod yr Her yn gyraeddadwy yn unol â phrofiad a lefel ffitrwydd eich grŵp. Gall mynd allan i’r mynyddoedd fod yn waith caled hyd yn oed yn yr haf – heriwch eich hun ond byddwch yn ymwybodol o lefelau ffitrwydd, a phrofiad y grŵp yn gyffredinol – nid dim ond eich lefelau chi eich hun. Cynlluniwch ddigon o ddiwrnodau ymarfer cyn yr Her. Sicrhewch fod gennych fap a chwmpawd a’ch bod yn gwybod sut i’w defnyddio. Astudiwch bob llwybr yn fanwl, canfyddwch pa mor hir y dylai ei gymryd i’w cyflawni a gwnewch yn siwr eich bod yn paratoi’n dda ar gyfer yr adeg pan fydd hi’n tywyllu.

Beth fyddwch chi ei angen…

  • Sach gefn gyfforddus
  • Esgidiau cerdded (gwnewch yn siwr eich bod wedi eu gwisgo ymlaen llaw a’u bod yn gwbl gyfforddus)
  • Sanau cerdded tew o ansawdd da
  • Top a throwsus thermal (mae gwlân merino yn wych)
  • Trowsus cerdded h.y. sy’n sychu’n gyflym
  • Siwmper gnu (Fleece)
    • Bagiau sych i gadw’ch cyfarpar yn sych yn eich sach gefn
    • Trowsus a siaced rhag glaw
    • Het a menig (a rhai sbâr)
    • Mapiau a chwmpawd
    • Dillad cynnes ychwanegol
    • Tortsh i’w rhoi ar eich pen a batris sbâr
    • Ffôn symudol wedi ei jarjio’n llawn
    • Bwyd a diod
    • Polion cerdded (argymhellir yn gryf eich bod yn eu defnyddio)!
    • Offer Cymorth Cyntaf
    • Plasteri blisteri (Compeed neu rywbeth tebyg)
    • Chwiban
    • Cysgod ar gyfer y grŵp
    • Eli haul
  • Sanau sbâr – 1 pâr ar gyfer pob mynydd
  • Digonedd o ddŵr (oddeutu 3 litr)
  • Charjiwr ffôn symudol ar gyfer y car
  • Miwsig a chlustffonau
  • Esgidiau cyfforddus i’w gwisgo pan na fyddwch ar y mynydd

Beth i’w wisgo ar y mynyddoedd / bryniau

  • Sach gefn gyfforddus
  • Esgidiau cerdded (gwnewch yn siwr eich bod wedi eu gwisgo ymlaen llaw a’u bod yn gwbl gyfforddus)
  • Sanau cerdded tew o ansawdd da
  • Top a throwsus thermal (mae gwlân merino yn wych)
  • Trowsus cerdded h.y. sy’n sychu’n gyflym
  • Siwmper gnu (Fleece)

Rhestr gyfarpar ar gyfer eich sach gefn

  • Bagiau sych i gadw’ch cyfarpar yn sych yn eich sach gefn
  • Trowsus a siaced rhag glaw
  • Het a menig (a rhai sbâr)
  • Mapiau a chwmpawd
  • Dillad cynnes ychwanegol
  • Tortsh i’w rhoi ar eich pen a batris sbâr
  • Ffôn symudol wedi ei jarjio’n llawn
  • Bwyd a diod
  • Polion cerdded (argymhellir yn gryf eich bod yn eu defnyddio)!
  • Offer Cymorth Cyntaf
  • Plasteri blisteri (Compeed neu rywbeth tebyg)
  • Chwiban
  • Cysgod ar gyfer y grŵp
  • Eli haul

Stwff ychwanegol a fydd yn sicr o fod yn ddefnyddiol

  • Sanau sbâr – 1 pâr ar gyfer pob mynydd
  • Digonedd o ddŵr (oddeutu 3 litr)
  • Charjiwr ffôn symudol ar gyfer y car
  • Miwsig a chlustffonau
  • Esgidiau cyfforddus i’w gwisgo pan na fyddwch ar y mynydd