Mae gofalu am Ben Nevis, yr Wyddfa a Scafell Pike yn dasg ddiddiwedd ond yn bleserus iawn. Dipyn bach fel Sisyphus, wedi’i gondemnio i rowlio clogfaen i fyny i ben y bryn ac yna ei gwylio’n rowlio’r holl ffordd i lawr cyn dechrau eto, mae timau o wirfoddolwyr a staff yn helpu i reoli’r erydiad a achosir gan filoedd o draed a 3.5 metr o law bob blwyddyn.

Gall gwirfoddoli fod yn wirioneddol werth chweil, cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd neu i roi rhywbeth yn ôl i mewn i’r amgylchedd.

Pam na wnewch chi, fel rhan o’ch her, wirfoddoli peth o’ch amser eich hun neu eich grŵp a helpu i atgyweirio’r mynyddoedd?

 

Am fwy o wybodaeth am sut i wirfoddoli o fewn ardaloedd penodol, ewch i’r gwefannau a restrir isod. Mae yna hefyd un digwyddiad arbennig bob blwyddyn a drefnir gan dimau o wirfoddolwyr ar Ben Nevis, Scafell Pike a’r Wyddfa o’r enw Yr Her 3 Chopa Gwirioneddol. Mae hon yn ymdrech flynyddol bellach, fel arfer ym mis Hydref, lle mae timau o Arweinwyr Mynydd, darparwyr digwyddiadau, sefydliadau rheoli ac unigolion ymroddedig yn gweithio i helpu cadw’r mynyddoedd poblogaidd hyn yn glir o sbwriel a malurion a helpu i hyrwyddo pwysigrwydd parchu’r mynyddoedd hyn a’u hamgylchedd bregus drwy wella ymwybyddiaeth, a helpu i addysgu mwy o bobl a lledaenu’r gair am leihau ein heffaith ar y lleoedd arbennig. Felly rhowch Like ar dudalen Facebook Yr Her 3 Chopa Gwirioneddol a chael y newyddion diweddaraf am yr her nesaf.